{kowydd gwraig y bwa bach}
1 Dyddgwaith dibech oedd echdoe
2 da vv Dduw a Davydd ddoe
3 nid oedd vnrhyw dydd anrheg
4 y dydd echdoe a doe deg
5 drwg oedd vod hoywnod hynoeth
6 echdoe yn vrawd i ddoe ddoeth
7 o vair wychdeg vawr echdoe
8 a vydd rhyw ddydd a'r dydd doe
13 doe dialawdd cawdd cowddnwyf
14 Davydd hen a newydd nwyf
15 gwydnglwyf y ddwyf vn ddeall
16 gwydn wyf val gwden avall
17 a blyg yn hawdd gawdd gyhwrdd
18 ac ni thyrr er vn gyrr gwrdd
19 mae ynof gwangof gwyngen
20 enaid cath anwydog hen
21 briwer curer cof lwydwydd
22 bo a vo arnai byw vydd
23 pedestr hwyr wyf cowddnwyf call
24 ar hyd erw lle rhed arall
25 a meistrawl ar wawl walamp
26 or gwst lle mae gorae'r gamp
27 gwell ymhell gaer gwaew lifnwyf
28 pwyll nog avr pellenic wyf
29 o Dduw ai grym ym ammwyll
30 a wyddant wy pwy yw pwyll
31 trech llavur nofiadur nwyf
32 no direidi dewr ydwyf
33 da vydde Vorvudd oi dyn
34 or diwedd hoen eiry dywyn
35 iawn a wnevthvm i chanmawl
36 ond oedd iawn v'enaid i ddiawl
37 nos da i'r verch annerchglaer
38 a dydd da am nad oedd daer
39 yhi a'm gorvydd hayach
40 aha gwraig y bwa bach
Dauid ap Gwilim